Book: Gwaith Samuel Roberts
S >>
Samuel Roberts >> Gwaith Samuel Roberts
Pages:
1 |
2 |
3 |
4 |
5 | 6
"Pw, pw, baili, paid a phoeni dim ynghylch eu gwedd a'u gwisg a'u
hymddangosiad. Pe caem ni unwaith olwg ar bridden yr hen guineas, dyna'r
peth i ni. Yr oedd amryw briddenod o hen guineas yn y gymdogaeth yma
ddeugain mlynedd yn ol, ond yr ydym ni wedi eu hadgyfodi oll o'u beddau.
Da di, dyfeisia ryw ffordd i gael hen wr Hafod Hwntw i olwg Gilhaul.
Gelli gychwyn ddiwrnod yn gynt wrth fyned i ffair Rhos. Galw heibio i
Hafod Hwntw wrth fyned. Bydd yr hen wr yn sicr o fyned i'r ffair. Ceisia
ganddo ddyfod i'r golwg wrth ddychwelyd adref; a throwch i orphwyso i'r
Cross Keys, a dyro iddo iugaid cynnes o gwrw wedi ei speisio yn bur neis
cyn ei gymeryd i edrych y ffarm. Gelli ddangos iddo fod yr adeiladau oll
yn bur gryno ac yn bur gyfleus, a bod y mynydd defaid yn bur helaeth. Ni
bydd dim eisiau crybwyll wrtho y nifer o ddefaid sydd gennym ni yno yn
awr, na dim am fethiant ein cynnyg am y Southdowns. Cymer et ar draws y
ddwy weirglodd, a'r ddol wenith y tuhwnt iddynt. Ni byddai waeth heb ei
gymeryd dros Rhos y Waun; ond gellil grybwyll wrtho fod y ffriddoedd oll
yn rhai sychion a gwelltog, a da ragorol i wartheg hespion a merlod.
Astudia ryw gynllun i gael yr hen wr drosodd i olwg y ffarm."
Galwodd y baili heibio i Hafod Hwntw fel yr addysgwyd ef: a thrwy lawer o
gymell ac o daerni a son gryn dipyn am degwch haelfrydig Lord Protection,
a gwerth ffafraeth teulu y Green, a chroesawder y gymdogaeth, ac eangder
y ffarm; a thrwy i rai o ferched Hafod Hwntw gefnogi ei a raeth,
llwyddodd y baili i gael gan yr hen wr ddyfod gydag ef heibio i Gilhaul
wrth ddychwelyd adref o'r ffair. Ond erbyn eu dyfod at y Cross Keys nid
oedd ar yr hen wr eisiau na bwyd na diod. Nid oedd ond newydd orffen
bwyta y bara a'r cig oedd ganddo yn ei boced, ac yr oedd newydd drachtio
yn o ddwfn o ffynnon y Graigwen wrth ddyfod heibio. Rhoddodd gwart o
flawd ceirch a dwfr i'w ferlyn, a gyrrodd i fynu ar unwaith tua Chilhaul;
a thaflodd ei olwg o'i amgylch ryw ddwywaith wrth yrru i fynu tua'r ty,
ac aeth yn bur syth drwy y buarth, ac i fyny tua'r ffriddoedd, a
gofynnodd ryw ddau neu dri o gwestiynau i'r baili yn nghylch y rhent a'r
trethoedd, a'r tenant diweddaf a'r un a fuasai yno o'i flaen. Dywedodd y
baili y cai yr holl hanes i gyd gan deulu y steward, ac erfyniodd yn daer
iawn arno alw yn y Green.
"Na," meddai'r hen ddyn, "byddai yn beth hollol ddiles i mi fyned cyn
belled a'r Green. Yr wyf yn gwybod yn barod gymaint ag sydd arnaf eisieu
wybod am hanes ac am ragorion Cilhaul. Y mae yn ddrwg genyf i mi deithio
cyn belled o'm ffordd wrth ddyfod adref o'r ffair. Yr wyf am frysio yn
awr heb golli dim amser pellach i mi gael cyrraedd adref cyn nos."
Dywedodd y baili wrtho y byddai yn hollol anmhosibl iddo gyrraedd adref
erbyn nos; a thaer erfyniodd arno drachefn a thrachefn i alw yn y Green i
gael ychydig luniaeth a feed i'w ferlyn; a lletya y noson honno yn y
Green neu yn Nhgilhaul; ac y cai gychwyn adref gyda'r wawr bore
drannoeth.
"Na thanci," meddai'r hen wr, "mi af fi adref yn burion heno. Gallaf
gyrraedd adref dros y mynyddau yn lled agos erbyn nos. Bydd tipyn o
leuad yn y dechreunos. Yr wyf fi mor gyfarwydd a llwybrau y mynyddoedd
ag ydwyf a ffyrdd y gwaelodion. Y mae aderyn yn y llaw yn Hafod Hwntw yn
werth dau yn y llwyn yn Nghilhaul." Ac ar hynny, trodd yr hen wr ben ei
ferlyn broc caled tua'i gartref, a gyrrodd yn bur fywiog dros y
ffriddoedd, ac ni welodd y baili mo'i wyneb caled sych garw byth mwyach.
Ymboenodd y steward a'i deulu lawer am i'r hen wr ddychwelyd felly heb
iddynt gael ei weled; a danghosent eu nwydau drwg tuag at bawb o'u deutu
mewn edrychiad, gair, a gweithred. Yr oedd colli pob gobaith am bridden
yr hen guineas, ar ol unwaith glywed cymaint am dani, yn eu gwneyd yn
beevish ofnadwy, ac yr oeddynt dros bob mesur o wenwynllyd wrth y baili.
Aethant o'r diwedd mor gas wrtho nes y gwylltiodd yntau i'w natur ddrwg,
a dyna fe a'i galon yn berwi, a'i wefusau mawrion yn crynnu, yn torri
allan i ddweyd yn wyneb y steward a'i deulu,--
"Ni safaf fi mo hyn ddim yn hwy. Yr wyf fi wedi gwneyd fy ngoreu i chwi
bob amser, a gwyddoch chwithau hynny yn bur dda. Y mae Cilhaul wedi
costio i mi lawer iawn o ludded ac o ofid. Nid fy nghynllun i oedd
cyrchu yr Herefords a'r Southdowns yma. Cyflawnais eich eirchion yn mhob
dim yn y dull llawnaf a manylaf. Aethum yr holl ffordd i Hafod Hwntw fel
yr oeddych wedi ceisio gennyf. Collais fy ffordd yn y niwl, a bu agos
iawn i mi golli fy mywyd ar y mynydd wrth groesi Rhyd du Cors Rheidol. Yr
oedd llif y nant yn bur wyllt, ac yn bur ddwfn, ar ol y gwlawogydd.
Llwyddais i gael yr hen ddyn i lawr yn ol eich dymuniad. Gwyddech yn
burion yr amser yr oeddym i fod wrth y Cross Keys, a buasai yn hawdd iawn
i chwi neu un o'ch meibion fod yno, neu wrth Gilhaul, i gyfarfod yr hen
wr. Buasai yn rhyw foddhad i chwi eich bod wedi cael ei weled, er na
buasai hynny o ddim lles yn y byd. Yr oedd yn ddigon eglur o'r foment
gyntaf y daeth yr hen wr i olwg Cilhaul na wnai ymdroi dim yn ei gylch,
ond y dychwelai yn unionsyth ar draws y bryniau cyn gynted ag y medrai
tua'i hen Hafod Hwntw. Y mae yr hen wr, er ei fod yn gwisgo gwasgod
gron, a byclau dyddiau Bess, yn bur graff a hirben, ac yr wyf yn gwbl
sicr na buasai dau ddwsin o stewardiaid byth yn ei droi hanner chwarter
modfedd o'i lwybr; a byddai yn hollol wallgofrwydd i ddisgwyl i un dyn yn
ei bwyll, os bydd ganddo hanner gronyn o'r synwyr mwyaf cyffredin,
gymeryd Cilhaul dan ei beichiau presennol."
"Wel, beth wnawn ni?" meddai'r steward, dan ollwng hir ochenaid allan o
waelod ei galon. "Yr ydym ni wedi gwneyd cam trwm cas brwnt iawn a'r
Carefuls. Yr wyf yn clywed eu bod hwy yn awr wedi prynnu section hyfryd
o dir bras ffrwythlawn ar lan y Missouri."
"Ydynt, syr, y maent yn gwneyd yn rhagorol yno. Y mae ganddynt ffarm
fawr ardderchog heb ddim beichiau i'w llwytho. Y maent yn cael yno y
cnydau mwyaf godidog, heb brynnu na guano na dim arall, ac y maent yn awr
ar brynnu y sections cysylltiedig a hi. Y maent i'w cael, a theitl y
llywodraeth iddynt, am lai na chwe swllt y cyfair; ac y mae un o
railffyrdd mawrion y gorllewin yn rhedeg yn awr drwy gwrr isaf eu
tiroedd.'
"Yr wyf yn ofni felly nad oes dim gobaith i ni eu cael hwy byth yn ol, ac
y bydd Cilhaul ar ein llaw am flwyddyn eto."
"Bydd, syr, bydd Cilhaul ar eich llaw hyd ddydd brawd, os na wnewch chwi
gynnyg rhyw gyfnewidiad."
"Pa fodd y gallaf fi gynnyg unrhyw gyfnewidiad yn awr ar ol i ni ymddwyn
fel y gwnaethom tuag at y Carefuls? Pa fodd byth y wynebaf yr Audit
nesaf? Pa fodd y meiddiaf ddangos fy wyneb i'm lord? Pa beth a wnaf,
neu a ddywedaf, nis gwn yn y byd. Yn boeth ulw y bo yr hen Gilhaul yna.
Pe medrid ei gwthio i rywle o'r golwg, byddai yn drugaredd i mi. Gwynfyd
pe ceid rhyw wrach i'w rheibio."
"Yr ydych chwi wedi gwneyd hynny yn barod," ebe y baili. "Byddai yn
eithaf peth i chwi gyflogi llong fawr fawr i'w chludo draw ymhell i'r
gorllewin dros y tonnau ar ol y Carefuls. Dichon y gwnaent hwy rywbeth o
honi. Neu pe digwyddai i'r llong a hithau suddo ar fanciau tywod
Newfoundland, byddai hynny yn well fyth. Yr wyf yn gwybod y byddai yn
llawer gwell i chwi ac i'r meistr tir ei hanfon felly dros y mor nag i
chwi ei chadw ymlaen ar eich llaw i'w thrin. Costiai ei phacio i fyny
dipyn o drafferth i chwi, a byddai ei mudiad ymaith yn dipyn bach o
golled i'r Frenhines ac i'r Eglwys, i'r person ac i'r cardotyn; ond
byddai yn fendith fawr i chwi, os nad ellwch ei gosod."
"O dangio di, baili, y rascal dwbl pan; paid di a cracio dy jokes
creulawn fel yna i'm diraddio i."
"Wel, syr, mi beidiaf fi yn rhwydd iawn; ond yr ydych chwi a'ch teulu yn
ddiweddar wedi cracio pethau bryntach na jokes yn fy erbyn i, ac ni
chymeraf fi ddim yn chwaneg o'r pethau hynny oddiwrth neb o honoch. Y
mae yn gwaedu fy nghalon y funud yma i gofio am y triniaethau creulawn a
gwarthus a gafodd y Carefuls pan dan eich stewardiaeth chwi. Yr wyf fi
wedi gwneyd i fyny fy meddwl i fyned ar eu hol i America y gwanwyn nesaf.
Y mae yn ofid mawr gennyf yn awr na buaswn wedi myned gyda hwy.
Cymydogion teg, caredig, a boneddigaidd oeddynt. Os oeddynt yn cwyno
weithiau yn erbyn gorthrymder, cawsant ddigon o achos i gwyno; ac heblaw
bod yn foddlon i bawb gael eu hawliau gwladol a chrefyddol, yr oeddynt yn
bur barod eu cymwynasau a'u helusenau. Yr wyf yn benderfynol i fyned ar
eu hol yn ddioed. Y mae lle ardderchog yn America i failiaid ffermydd
ymdrechgar a medrus. Gellwch chwilio am baili newydd yn fy lle pan y
mynnoch; ac yr wyf yn gobeithio y caiff hwnnw fwy o gysur, a gwell lwc,
yn Nghilhaul nag a gefais i."
Dyna ychydig o hanes helyntion diweddar Cilhaul Uchaf. Ni cheisiaf ar
hyn o bryd mo'u holrhain ddim pellach. Yr oedd helbul a gofidiau y
steward wrth fethu gosod Cilhaul, a rhai ffermydd eraill a ddaethant ar
ei law, yn ei boeni ddydd a nos. Yr oedd yr adgofion o'i ymddygiad at
rai o'r tenantiaid ffyddlonaf i'w meistr a welwyd erioed yn llosgi
ddyfnach ddyfnach yn ei fynwes. Yr oedd ei ddanodion ef a'i deulu i'w
gilydd o'u barbareidddra dirmygus tuag at y Carefuls yn ennyn yn bur
fynych fwy na llonaid y ty o fflamau annedwyddwch a chynnen. Yr oedd
croes-esboniadau y steward wrth ei lord yn ddamniol i'w gymeriad fel
goruchwyliwr. Glyn yr anfri wrth ei enw tra bydd byw, a glyn wrth ei
goffadwriaeth am oesoedd ar ol iddo farw. Byddai darlunio y cynhennau fu
yn ei deulu, a danodion ei gydoruchwylwyr, a'r modd y bu rhyngddo a'i
arglwydd, a'r sport fyddai rhai o'i hen gyfeillion yn wneyd o hono o
gylch bar y Cross Keys, yn bethau rhy anhawdd i mi eu llawn ddarlunio. Y
mae y rhan fwyaf o'r pethau hynny wedi cael eu cadw yn secrets. Gellir
dychmygu, a dychmygu yn bur gywir, ond nid doeth adrodd dim heb fod sail
eglur a diamheuol iddo.
Yr wyf yn clywed fod fy nghefnder awenyddol Twm Edward o'r Nant wedi
rhoddi ei ffarm i fyny, a'i fod a'i fryd ar ymfudo i ryw Canterbury
Settlement yn ynysoedd y de; a'i fod wedi parotoi hanesion manylaidd am
stewardiaeth y Green, a thenantiaeth y cwr uchaf o estate Lord
Protection, i'w cyhoeddi yn llyfr go fawr cyn iddo ymadael o'r wlad. Y
mae Twm wedi cael y cyfleusderau mwyaf manteisiol i sylwi a deall fel y
mae pethau wedi myned yn mlaen er's llawer blwyddyn yn y Green, ac yn yr
Hall, ac ar hyd yr holl estate; ac yr wyf yn sicr y bydd hanesion ac
adroddiadau Twm yn rhai cryfion ac addysgiadol, yn enwedig ei adroddiadau
o gyfrwys ddichellion y steward a'i deulu i lunio a derbyn a thraethu
clep ac athrod, ac i chwythu cynnen rhwng cymydogion, er mwyn i'r steward
drwy hynny gael achlysur i feirniadu yn yr Hall, yn nghlyw y lord a'i
gymdeithion, ar dymherau y tenantiaid, a chael achlysur hefyd i ddifrio a
gwthio ymaith y tenant ymdrechgar fydd yn rhy onest i werthu ei gydwybod
am bris dirmygol tylwyth y steward. Bydd llyfr Twm o hanes teulu y
steward yn werth ei gael, a gwnaiff les.
Yr wyf finnau yn bwriadu, pan gaf hamdden i grynhoi at eu gilydd, gyda
thipyn o ofal a manylder, fy adgofion o hanes Nant y Dderwen, a'r Clawdd
Melyn, a'r Caeau Llwydion, a'r Ffos Fach, a'r Bryn Tew, a Than yr Wtra,
a'r Berth Lwyd, a'r Gro Arw, a Glyn Carfan, a'r Coed Crin, a Llwyn y
Pryfaid, a Maes y Brwyn, a'r Gelli Lwyd, a Bryndu, a'r Bryniau Mawr, a
Thal y Bont, a'r Ty Uchel, a Garth y Drain, a Math y Dafarn; ac amryw o
ffermydd eraill oddeutu y gymydogaeth. Yn y rhan fwyaf o'r mannau a
nodwyd, cyflawnwyd anghyfiawnderau o'r fath greulonaf tuag at hen
denantiaid o'r cymeriad mwyaf ymdrechgar a ffyddlon; a dangoswyd at rai o
honynt, yn enwedig tuag at weddwon a phlant amddifaid, fath o
flagardiaeth ag y buasai yn gywilydd gan grach-stewardiaid Novogorod
feddwl am ei gyflawni.
Yr wyf fi yn gwresog garu hen wlad fy ngenedigaeth, a gwn fod y rhan
fwyaf o'm cymydogion yn hoff iawn fel finnau o'u gwlad, er tloted ydyw,
a'u bod wedi gwneuthur ymdrechion anghredadwy i geisio byw ynddi: ond pan
feddyliwyf am yr addewidion anogaethol o dal sicr am eu llafur i
amaethwyr a llafurwyr diwyd a gofalus sy'n cael eu dal allan iddynt gan
ddyffrynoedd llydain breision cyfoethog taleithiau gorllewin America, a
holl wastadedd y ddwy Canada, a phorfeydd gwelltog anherfynol
Australasia, a gwastad-diroedd iachus rhai o wledydd hyfryd Asia Leiaf a
gororau Affrica, a deniadau y Canterbury Settlements, a'r Sydney Herbert
Settlements, a hyd yn nod rai o dywysogaethau yr Ynys Werdd yn ein
hymyl;--pan feddyliwyf, meddaf, am y deniadau a'r gwahoddiadau taerion
cryfion ac anogaethol sy'n cyrraedd y ffarmwyr a'r gweithwyr o'r holl
fannau hyn; a phan gofiwyf am luosogiad cyflym y cyfleusderau i deithio
ar bob llaw, ac am y niferoedd sydd wedi ymfudo yn barod o'n gwlad fach
dlawd lethedig; a phan feddyliwyf am y dull barbaraidd yr ydys yn baeddu,
ac yn beichio, ac yn athrodi, ac yn hustyngio, ac yn diraddio, ac yn
mathru dan draed y ffarmwyr mwyaf diwyd ac ymdrechgar a welodd ein hen
gymoedd erioed,--yr wyf yn ofni yn wir yr ymfuda pob rhinwedd a
diwydrwydd ymaith ym mhell oddiyma, a hynny yn bur fuan, os na bydd i
arglwyddi tiroedd a'u crach-stewardiaid, ynghyda'u ceraint eglwysig,
ymddwyn yn decach ac yn foneddigeiddiach tuag at denantiaid cydwybodol a
llafurus
BYWYDAU DISTADL.
DONAWR 18, 1850. MARY WILLIAMS, Garsiwn. Bu yn dra diwyd yn holl
gynhulliadau yr eglwys drwy hir dymor ei haelodaeth; ac yr oedd yn hyfryd
sylwi ar ei llygaid llawn pan y byddai yn gwrando "yr ymadrodd am y
groes." Un o dlodion y tir ydoedd; ac wrth ei gweled weithiau yn y tes,
ac weithiau yn y tywydd, yn cerdded o amgylch i geisio elusen, bu yn alar
gennym lawer tro na buasai hyfforddiad boreuol wedi ei roddi i un o lygad
mor graff i drin gardd lysiau gryno wrth ymyl ei bwthyn. Buasai yn
hyfryd ei gweled yn gwrteithio, ac yn chwynnu, ac yn priddo ei gryniau;
ac yn cynhaeafu camamil, chwerwlys lwyd, troed y dryw, cwmffre, dant y
llew, cribau Sant Ffraid, y gemi goch, a llysiau rhinweddol eraill.
Buasai rhyw wasanaeth bychan felly, nid yn unig yn elw i gymdeithas, ond
yn ddifyrrwch i'w mheddwl, ac yn gymorth i'w myfyrdod a'i gweddi, drwy ei
chadw o gymaedd lludded a phrofedigaethau rhodianna aflesol. Y mae
llawer-oedd wedi treulio rhan fawr o'u dyddiau i gerdded o dy i dy, pan y
gallasent, ond rhoddi eu dyfais ar waith, gael rhyw oruchwylion difyrrus
a buddiol i'w cyflawni gartref. Y mae rhy fach yn cael ei wneyd gan
flaenoriaid cymydogaethau i hyfforddi a gwobrwyo diwydrwydd ac ymdrech
mewn pethau bychain.
Chwefror 1, 1850. THOMAS EVANS, Aber. Un isel "hawdd ei drin" ydoedd;
distaw yn y teuluoedd lle y gweinyddai; o ymadrodd byrr sylweddol yn y
gymdeithas grefyddol; ac o nerth taerineb anarferol mewn gweddi.
Pages:
1 |
2 |
3 |
4 |
5 | 6